beibl_net
-
Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn bob amser; byddwch yn amyneddgar, a goddef beiau eich gilydd mewn cariad. Effesiaid 4:2
about 4 hours ago
via web
-
Dylech adael i'r Ysbryd reoli'ch bywydau chi, wedyn fyddwch chi ddim yn gwneud beth mae'r chwantau eisiau. Galatiaid 5:16
10:54 PM May 24th
via web
-
Felly, frodyr a chwiorydd, dw i am i chi ddeall fod maddeuant pechodau ar gael i chi o achos beth wnaeth Iesu. Actau 13:38
10:56 PM May 23rd
via web
-
Mae Duw yn gwybod beth sydd yng nghalon pawb, ac mae'n gwybod beth ydy bwriad yr Ysbryd. Rhufeiniaid 8:27
10:11 PM May 22nd
via web
-
Gallwch chi drystio Duw yn llwyr. Mae'n gwneud beth mae'n ei ddweud. 1 Corinthiaid 1:9
12:06 AM May 22nd
via web
-
Atebodd Iesu, 'Fy mam a'm brodyr i ydy'r bobl sy'n clywed neges Duw ac yn gwneud beth mae'n ei ddweud.' Luc 8:21
11:21 PM May 20th
via web
-
Dyn ni'n ddinasyddion y nefoedd, ac yn edrych ymlaen yn frwd i'n Hachubwr, yr Arglwydd Iesu Grist, ddod yn ôl o'r nefoedd. Philipiaid 3:20
12:08 AM May 20th
via web
-
Haleliwia! Mae'r Arglwydd Dduw Hollalluog wedi dechrau teyrnasu. Gadewch i ni ddathlu a gorfoleddu a rhoi clod iddo! Datguddiad 19:6=7
10:51 PM May 18th
via web
-
Y Meseia Iesu ydy'r un fydd yn barnu pawb... Mae e'n mynd i ddod yn ôl i deyrnasu. 2 Timotheus 4:1
10:42 PM May 17th
via web
-
Mae Iesu wedi cael ei gymryd i'r nefoedd oddi wrthoch chi. Ond yn union yr un fath ag y gweloch e'n mynd bydd yn dod yn ôl eto. Actau 1:11
10:51 PM May 16th
via web
-
Am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i'n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Rhufeiniaid 12:1
10:09 PM May 15th
via web
-
Carwch chi eich gelynion. Gwnewch ddaioni iddyn nhw. Rhowch fenthyg iddyn nhw heb ddisgwyl cael dim byd yn ôl. Luc 6:35
10:51 PM May 14th
via web
-
Y rhai sy'n derbyn beth dw i'n ei ddweud ac yn gwneud beth dw i'n ddweud ydy'r rhai sy'n fy ngharu i. Ioan 14:21
10:39 PM May 13th
via web
-
Does gen i ddim cywilydd o'r newyddion da o gwbl. Dyma'r ffordd rymus mae Duw'n gweithio i achub pawb sy'n credu. Rhufeiniaid 1:16
10:43 PM May 12th
via web
-
'Mae'r foment wedi dod! Mae Duw yn dod i deyrnasu! Trowch gefn ar bechod a chredu'r newyddion da!' Marc 1:15
10:41 PM May 11th
via web
-
Does ond un peth i frolio amdano: Croes ein Harglwydd Iesu Grist. Galatiaid 6:14
10:55 PM May 10th
via web
-
Fi ydy'r bugail da. Mae'r bugail da yn fodlon marw dros y defaid. Ioan 10:11
10:45 PM May 9th
via web
-
Fi ydy golau'r byd. Bydd gan y rhai sy'n fy nilyn i olau i'w harwain nhw i fywyd, a fyddan nhw byth yn cerdded mewn tywyllwch. Ioan 8:12
10:11 PM May 8th
via web
-
Fe ydy'r Duw sy'n rhoi nerth i mi — mae e'n symud pob rhwystr o'm blaen. Salm 18:32
10:14 PM May 7th
via web
-
Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen,a byddwch yn ddiolchgar bob amser. Ph4.6
10:53 PM May 6th
via web
|
|